Dyddiad yr Adroddiad

01/03/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202205640

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr X fod Cyngor Abertawe wedi methu ag ymateb i’w gŵyn am fater parcio.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i Mr X i ddechrau, ei fod wedi methu ag ymateb i’w gŵyn wedyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro wrth Mr X, rhoi esboniad iddo am y methiant hwn, ac ymateb i’w gŵyn o fewn pedair wythnos.