Dyddiad yr Adroddiad

08/05/2025

Achos yn Erbyn

Tai Cymunedol Tai Calon

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202405782

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Bu inni ddechrau ymchwilio i gŵyn Mrs A ynghylch Cymdeithas Dai Gymunedol Tai Calon i bennu a oedd y Gymdeithas Dai:
• Wedi cymryd pob cam perthnasol i ymateb i adroddiadau Mrs A am gyflwr gwael ei thŷ rhwng 2019 a 2024
• Wedi cymryd pob cam priodol i fynd i’r afael ag argymhelliad yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y dylid ailgartrefu Mrs A yn sgil asesiad a gynhaliwyd oddeutu 2019/2020
• Wedi ystyried yr holl ffactorau perthnasol pan benderfynodd dynnu yn ôl y cynnig cyn dyrannu a wnaed yn 2024.
Yn ei hymateb i’r ymchwiliad, bu i’r Gymdeithas Dai dderbyn y gallai rhai o’r camau a gymerwyd ganddi fod wedi methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig. Gwnaeth nifer o gynigion i fynd i’r afael â phryderon Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y camau yr oedd y Gymdeithas Dai wedi cytuno i’w cymryd yn gymesur er mwyn datrys cwyn Mrs A yn wirfoddol ac y byddent yn sicrhau canlyniad priodol. Ar y sail hon, daeth yr ymchwiliad i ben.
Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud yr hyn a ganlyn:
• Ymddiheuro i Mrs A am yr amser a gymerwyd i ddatrys ei sefyllfa dai ac am y diffygion o ran gweithredu ei threfn gwyno, gan gynnwys cynnig iawndal ariannol o £1,000
• Sicrhau y bydd Mrs A yn cael cynnig yr eiddo nesaf a fyddai’n addas ar gyfer ei hanghenion
• Hepgor y ffioedd ailgodi am addasiadau a wnaed i eiddo Mrs A heb ganiatâd
• Ymgynghori ynghylch fersiynau terfynol ei pholisïau o ran addasiadau, pobl sy’n agored i niwed a dyraniadau, a’u cyhoeddi
• Adolygu ei phrosesau cadw cofnodion a, phan bennir meysydd i’w gwella, mynd i’r afael â hwy.