Dyddiad yr Adroddiad

07/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202406265

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd yn gallu ymweld â’i chwaer, sydd yn ei 90au ac yn byw â dementia, y tu mewn i’r Cartref Gofal lle mae ei chwaer yn byw. Roedd hyn yn dilyn galwad fideo â’i nith, yr oedd Ms A o dan yr argraff a oedd yn digwydd mewn rhan breifat o’r Cartref Gofal, lle’r oedd Ms A wedi rhegi ac wedi gwneud sylw am gŵyn roedd wedi’i gwneud i’r Cartref Gofal. Cyfeiriodd Ms A at yr anawsterau wrth geisio cadw mewn cysylltiad â’i chwaer os na allai ei chwaer fynd allan mewn tywydd gwael.

Cysylltwyd â’r Cyngor yn ei rôl gomisiynu gan ei fod yn ariannu lleoliad y chwaer. Cytunodd y Cyngor â setliad cynnar yr Ombwdsmon a oedd yn cynnwys negodi setliad cyfryngu a fyddai’n galluogi Ms A i ymweld â’i chwaer yn y Cartref Gofal. Hefyd, roedd Rheolwr Tîm Contractau’r Cyngor i gysylltu a gweithio ar y cyd â’i swyddog cyfatebol yn yr awdurdod lleol lle’r oedd y Cartref Gofal wedi’i leoli a’r Cartref Gofal, i ddatblygu polisi ar gysylltiadau rhithiol lle’r oedd ymwelydd yn wynebu cael eu gwahardd o’r Cartref Gofal a fyddai’n cynnwys system rybuddio ymlaen llaw gymesur a phroses apelio. Roedd mesur i roi sylw i oruchwylio monitro contractau’r Cyngor hefyd yn rhan o’r setliad.