Dyddiad yr Adroddiad

05/26/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202208691

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gwasanaeth a ddarparwyd gan Wasanaethau Plant y Cyngor ers mis Tachwedd 2021. Dywedodd bod y Cyngor wedi gwrthod ymchwilio i’w gwynion aml-asiantaeth oherwydd bod materion wedi’u hystyried eisoes gan y Llys.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod rhai agweddau yn gysylltiedig ag asiantaethau eraill a bod rhai materion wedi’u hystyried mewn achos llys, roedd y Cyngor wedi methu ystyried a/neu ymateb i’r agweddau hynny ar gŵyn Mr A a godwyd cyn cychwyn achos, ac nad oedd y Llys wedi’u hystyried.

Cytunodd y Cyngor i ailystyried cwyn Mr A, o fewn 20 diwrnod gwaith, i sefydlu pa gwynion sy’n faterion y bu i’r Llys eu hystyried ac y gellid ymchwilio iddynt ac ystyried materion ychwanegol yr oedd Mr A wedi’u codi wedyn gyda’r Cyngor. Cytunodd y Cyngor ymhellach i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i gŵyn i Mr A yn mynd i’r afael â’r materion hynny nad oeddent yn destun achos Llys a’r materion ychwanegol a godwyd.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau uchod yn rhesymol i setlo cwyn Mr A.