Dyddiad yr Adroddiad

08/01/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202302865

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss F fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu cydnabod ac ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Mai.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi derbyn cwyn Miss F ond oherwydd diofalwch gweinyddol nid oedd wedi cydnabod nac ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Miss F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss F ac i ddarparu ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.