Dyddiad yr Adroddiad

14/01/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202405095

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am ba mor ddigonol oedd ymateb y Cyngor mewn perthynas â phryderon yr oedd wedi’u codi ynghylch llosgi anghyfreithlon ar safle Teithwyr a reolir gan y Cyngor. Cododd bryderon hefyd am y ffordd yr ymdriniodd y Cyngor â’i gŵyn, a nododd y rhesymau pam ei fod yn anhapus â rhai o ymatebion y Cyngor.

Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol o ddiffygion y Cyngor yn y modd yr ymdriniodd â’r gŵyn, a’r diffyg cyfathrebu effeithiol â Mr A. Roedd yr Ombwdsmon hefyd o’r farn y gallai ymateb manwl ac amserol i’r gŵyn fod wedi atal Mr A rhag gorfod cysylltu â’r swyddfa hon i gael eglurhad pellach.

Fel rhan o benderfyniad cynnar, cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Mr A ac ymddiheuro eto am y diffygion o ran cyfathrebu ac ymdrin â chwynion. Byddai hefyd yn mynd i’r afael â pham mae tanau sy’n digwydd y tu hwnt i ffin safle’r Teithwyr y tu allan i gwmpas cytundeb cytundebol y Cyngor. Cytunodd y Cyngor hefyd i adolygu ei ddull o ymdrin â chwynion a chyfathrebu yn achos Mr A, fel rhan o ddysgu ehangach, a rhannu unrhyw wersi a ddysgwyd â’r swyddfa hon.