Dyddiad yr Adroddiad

03/06/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202207154

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am faterion ynghylch adran gwasanaethau cymdeithasol y Cyngor oedd yn ymwneud â’i phlant. Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi comisiynu ymchwiliad annibynnol cam 2 i ystyried y materion hyn.

Canfu’r asesiad fod Ms X wedi gofyn am ymchwiliad annibynnol cam 2. Fodd bynnag, oherwydd oedi cyn i’r Cyngor allu penodi ymchwilydd, nid oedd modd bwrw ymlaen â’r ymchwiliad bryd hynny. Roedd Ms X yn dal yn anfodlon â’r ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â’i phryderon ac roedd ganddi bryderon mwy diweddar yr oedd yn dymuno eu codi.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gomisiynu ymchwiliad annibynnol cam 2 i holl bryderon Ms X o fewn 2 fis.