Dyddiad yr Adroddiad

09/25/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202304521

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss H fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi codi tâl arni am gael gwared ag eitemau o eiddo roedd hi wedi symud ohono. Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi archwilio’r eiddo tan 11 diwrnod ar ôl iddi hi ei adael, ac roedd y Cyngor wedi rhoi dyddiadau gwahanol iddi o ran pryd yr oedd yr archwiliad wedi cael ei gynnal a phryd yr aethpwyd â’r eitemau oddi yno.

Canfu’r Ombwdsmon bod gohebiaeth y Cyngor â Miss H yn cyfeirio at sawl dyddiad gwahanol yn 2022 a 2023 pan gynhaliwyd yr archwiliad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth i Miss H. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael cytundeb y Cyngor i ymddiheuro am y dryswch a achoswyd, i egluro pryd y cynhaliwyd yr archwiliad a phryd yr aethpwyd â’r eitemau oddi yno, ac i dalu £25 i Miss H am ei hamser a’i thrafferth yn gwneud ei chwyn cyn pen 4 wythnos.