Cwynodd Miss Q fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu â rhoi addasiadau rhesymol iddi ac nad oeddent wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Hydref 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Miss Q yn ddiweddar ond penderfynodd fod oedi sylweddol wedi bod gan y Cyngor cyn rhoi’r ymateb. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss Q. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Miss Q am yr oedi o fewn pythefnos a chynnig taliad iawndal o £50 iddi i gydnabod yr amser a gymerodd i ymateb i’w chŵyn.