Dyddiad yr Adroddiad

10/18/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202304840

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs F bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu uwchgyfeirio ei chwyn i gam dau gweithdrefn gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi oedi cyn bwrw ymlaen â chwyn Mrs F. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs F. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs F, talu iawn o £50 iddi am yr oedi a phenodi ymchwilydd annibynnol o fewn un mis.