Dyddiad yr Adroddiad

05/18/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202105757

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss G nad oedd Cyngor Abertawe (“y Cyngor”) wedi ad-dalu ei chostau pellach am ofal a biliau’r cartref, mewn cysylltiad â’r cyfnod o fis Mawrth i fis Tachwedd 2018, pan fu ei nai, Mr E, yn byw gyda hi yn hytrach nac yn ei lety â chymorth.

Canfu’r Ombwdsmon:

· Yn ystod y cyfnod dan sylw, er bod Mr E wedi derbyn cymorth yn y cartref, nid oedd ar y lefel yr oedd wedi bod yn ei derbyn pan oedd yn byw yn ei lety â chymorth. Yn unol â hynny, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na ddylai Miss G fod wedi bod yn talu cyfraniadau cymorth gofal ar yr un raddfa.

· Byddai’r Ombwdsmon wedi argymell ad-daliad rhannol o’r taliadau cymorth gofal oni bai bod y Cyngor wedi ail-werthuso taliadau Miss G a dod i’r casgliad y bu diffyg a bod £884.10 yn ddyledus iddi. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y swm hwn yn briodol.

· Roedd yr Ombwdsmon hefyd o’r farn ei bod yn briodol i’r Cyngor gynnig gwneud taliad pellach i Miss G o £250 am yr amser a’r drafferth o gyflwyno ei chwyn a cheisio datrys y mater. Fodd bynnag, gwrthododd Miss G y taliad hwn.