Cwynodd Ms A am yr oedi cyn cael ail farn gan seiciatrydd mewn perthynas â diagnosis o awtistiaeth ac ymdriniaeth y Bwrdd Iechyd â’r gŵyn, a oedd yn cynnwys oedi wrth ymateb i gŵyn ysgrifenedig.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A eto am ddiffygion wrth ymdrin â’r gŵyn, a oedd yn cynnwys oedi gormodol cyn i Mrs A dderbyn ymateb ysgrifenedig. I gydnabod yr amser a’r drafferth a’r anghyfleustra a achoswyd i Ms A, cytunodd i dalu iawndal o £100.
Cytunodd hefyd i roi’r wybodaeth yr oedd wedi gofyn amdani i Ms A ynghylch cymhwyso safonau clinigol cenedlaethol i’r broses asesu.