Dyddiad yr Adroddiad

08/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202300966

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr M nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi egluro ei ddiagnosis ar ôl llawdriniaeth ym mis Tachwedd 2019 a’i fod wedi cael gwybodaeth anghyson.
Rhoddodd yr Ombwdsmon ystyriaeth i’r wybodaeth a gafodd Mr M ar ôl ei lawdriniaeth a chanfu nad oedd wedi cael cyfle ar unrhyw adeg i drafod y llawdriniaeth â’r Llawfeddyg na thrafod canlyniad histoleg yr adenoma a dynnwyd.
Felly, awgrymodd yr Ombwdsmon setliad lle trefnodd y Bwrdd Iechyd gyfarfod rhwng Mr M, y Llawfeddyg a Histopatholegydd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i’r cynnig ac roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y mater wedi’i setlo.