Dyddiad yr Adroddiad

11/24/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202202910

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cynnal llawdriniaeth i dynnu pen-glin newydd ei mam, Mrs Y, a gosod mewnblaniad dros dro i helpu i drin ei phen-glin heintus, heb y cyfleusterau i gynnal ail gam y driniaeth i ffitio pen-glin newydd barhaol. Cwynodd Mrs X fod ei mam wedi’i gadael mewn sefyllfa waeth na phe na bai wedi cael y llawdriniaeth gyntaf, a heb unrhyw awgrym o ba bryd y byddai’n cael yr ail lawdriniaeth.

Daethpwyd â’r ymchwiliad i ben gan fod Mrs Y erbyn hyn wedi cael yr ail lawdriniaeth i osod pen-glin newydd barhaol, sydd wedi datrys ei chŵyn a chyflawni’r canlyniad roedd yn ei ddymuno. Ar ôl gwrando ar yr hyn oedd gan Mrs X i’w ddweud ac ystyried y dystiolaeth oedd ar gael, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y dylid dod â’r ymchwiliad i ben gan na fyddai’n gymesur i barhau.