Dyddiad yr Adroddiad

06/14/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202300957

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss H fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb iddi i gŵyn ddilynol a gyflwynodd ym mis Hydref 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd cyn ymateb, a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Miss H. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss H a chynnig iawndal o £100 iddi i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.