Dyddiad yr Adroddiad

05/30/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202201893

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am ddefnydd y Bwrdd Iechyd o’i Farciwr trais ac ymosodol yn ei herbyn a’r effaith yr oedd hyn wedi’i chael ar ei gallu i gael mynediad at wasanaethau.

Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn gymesur ymchwilio i gŵyn Ms A yn absenoldeb tystiolaeth ategol.

Canfu’r Ombwdsmon bod diffyg gweinyddol, a achoswyd gan y pandemig COVID-19 yn ôl y Bwrdd Iechyd, wedi golygu nad oeddent wedi hysbysu Ms A o ganlyniad adolygiad o Farciwr a oedd wedi penderfynu y dylid parhau i gymhwyso’r Marciwr.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig, o fewn 1 mis, i Ms A am beidio ei hysbysu’n gynharach am ganlyniad yr adolygiad o Farciwr yn 2020, yn ogystal â’r oedi dilynol cyn darparu esboniad am yr oedi gyda’r ymateb (adolygiad o’r Marciwr).

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cam gweithredu uchod yn rhesymol er mwyn setlo cwyn Ms A.