Cwynodd Ms K nad oedd Pobl wedi ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ganddi ym mis Tachwedd 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod cwyn Ms K wedi’i hanfon i gyfeiriad e-bost nad oedd yn cael ei fonitro.
Cyflwynodd Ms K ail gŵyn nad oedd yn dod o fewn proses gwyno’r Gymdeithas ond nad oedd wedi rhoi rhesymau am hynny. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms K. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Ms K, o fewn 7 diwrnod gwaith, i ymddiheuro ac i egluro’r camau roedd wedi’u cymryd i ddileu’r cyfeiriad e-bost nad oedd yn cael ei fonitro ac i egluro pam nad yw’r gŵyn yn dod o fewn y broses gwyno.