Cwynodd Mr X fod Cyngor Tref San Clêr wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hwn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos, a fydd hefyd yn cynnwys esboniad ynghylch pam y bu oedi cyn darparu’r ymateb.