Dyddiad yr Adroddiad

10/20/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Eraill amrywiol

Cyfeirnod Achos

202303715

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr G bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi gosod cyfyngiadau cyswllt yn amhriodol yn ei erbyn o dan eu polisi “Rheoli Cyswllt: Gweithredoedd Annerbyniol gan Gwsmeriaid” (“y Polisi”). Ar ôl ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod camau gweithredu ar ôl i’w cyflawni gan y Cyngor o dan y Polisi. Yn arbennig, ceisiodd yr Ombwdsmon gadarnhad y byddai’r Cyngor yn cynnal adolygiad o’r cyfyngiadau cyswllt, yn unol â’r gofyniad 6 mis ar ôl cyflwyno cyfyngiadau.
Roedd yr Ombwdsmon yn falch bod y Cyngor wedi cytuno i gynnal y camau gweithredu canlynol er mwyn setlo’r gŵyn o fewn 6 wythnos:
a) cynnal adolygiad o’r cyfyngiadau cyswllt sydd mewn grym mewn cysylltiad â Mr G o dan y Polisi
b) hysbysu Mr G a’r Ombwdsmon o ganlyniad yr adolygiad ac, ar gyfer unrhyw gyfyngiadau sy’n parhau i fod mewn grym, cadarnhau natur a hyd y cyfyngiadau.