Dyddiad yr Adroddiad

03/15/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llanhiledd ac Abertyleri

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202206877

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr T nad oedd Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd wedi darparu ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Medi 2022 am ddiffyg potiau blodau a basgedi crog.

Penderfynodd yr Ombwdsmon bod y Cyngor Cymuned wedi methu darparu ymateb i gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor Cymuned i ymddiheuro i Mr T, yn rhoi esboniad am yr oedi ac yn cyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.