Dyddiad yr Adroddiad

05/22/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202300752

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr M bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi methu darparu ymateb digonol i’w bryderon diogelwch ynglŷn ag ysgol newydd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1, nid oedd wedi ymateb bob amser i negeseuon e-bost Mr M. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr M. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr M, darparu esboniad am yr oedi a’r methiant i ymateb i’w negeseuon e-bost a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn erbyn 4 Gorffennaf. At hynny, bydd angen i’r Cyngor ddarparu copi o’r adroddiad diogelwch cyn gynted ag y bydd ar gael i Mr M.