Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill amrywiol

Cyfeirnod Achos

202303707

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A bod Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi cael gwared â choed yn ddirybudd y tu ôl i’w heiddo, sydd wedi effeithio’n andwyol ar ei phreifatrwydd.

Roedd yn bryderus hefyd bod goleuadau yn y cyfadeilad y tu ôl i’w heiddo ymlaen drwy’r nos ac, ers cael gwared ar y coed, roeddynt yn rhy llachar ac yn aflonyddu ar ei chwsg.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod gan y Cyngor hawl i gael gwared ar goed oddi ar ei dir ei hun heb roi rhybudd ymlaen llaw i Mrs A.

Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor fod wedi ystyried ac ymchwilio i gŵyn Mrs A ynglŷn ag effaith y goleuadau, fel niwsans statudol posibl. Dywedodd bod y methiant i wneud hynny gyfystyr â chamweinyddu a achosodd anghyfiawnder i Mrs A.

Er mwyn datrys cwyn Mrs A am y goleuadau, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro iddi am y methiant hwnnw ac i ymchwilio i’w phryder ynghylch y goleuadau fel niwsans golau statudol posibl (llygredd golau) ac i weithredu fel y bo’n briodol yn dilyn yr ymchwiliad hwnnw. Cytunodd y Cyngor i ddilyn y camau hynny o fewn 2 fis.