Dyddiad yr Adroddiad

09/05/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202303840

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu ymateb i’r gŵyn yr oedd wedi’i chyflwyno iddo 2 fis yn ôl.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod yn ogystal â diofalwch gweinyddol o ran cydnabod yn ffurfiol bod y gŵyn wedi dod i law neu o ran darparu diweddariad i’r achwynwr. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Cyngor i gytuno i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn cyn pen 2 wythnos, gan ddweud y dylai’r ymateb hwnnw hefyd gynnwys ymddiheuriad ac eglurhad ynghylch y diofalwch o ran peidio â chydnabod yn ffurfiol ei fod wedi derbyn y gŵyn ac am beidio rhoi diweddariad ers i’r gŵyn gael ei gwneud.