Dyddiad yr Adroddiad

06/23/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202108139

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A, ar ran pwyllgor rheoli canolfan gymunedol, am y modd y deliodd y Cyngor â chais a wnaed i Gronfa’r Eglwys yng Nghymru (“y Gronfa”), y diffyg gwybodaeth cyn ymgeisio a’r oedi wrth ddrafftio les roedd yn ofynnol iddo ymrwymo iddi er mwyn manteisio ar y Gronfa.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y dystiolaeth yn awgrymu bod gan y Cyngor hawl i ddefnyddio ei delerau a’i amodau ei hun i weinyddu’r Gronfa ac roedd wedi diwygio ei wefan a’i ffurflen gais. Ond, cytunodd fod oedi helaeth wedi bod wrth baratoi’r les ddrafft. Penderfynodd setlo’r gŵyn.

Ceisiodd a chafodd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro am yr oedi ac i hepgor y ffi am baratoi’r les, i gydnabod yr amser a’r drafferth a achoswyd i’r pwyllgor rheoli wrth fynd ar drywydd y les.