Dyddiad yr Adroddiad

03/30/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

201806120

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Ym mis Rhagfyr 2018, cafodd swyddfa’r Ombwdsmon gŵyn gan Swyddog Monitro Cyngor Bro Morgannwg bod y Cyn Aelod (a oedd yn dal yn aelod o Gynghorau tref a sir ar y pryd) wedi cael ei gyhuddo o droseddau rhywiol hanesyddol ac, o’r herwydd, gallai fod wedi dwyn anfri ar ei ddau Gyngor ac ar ei swydd fel cynghorydd.

Cafwyd y Cyn Aelod yn euog. Cafodd ei ddedfrydu i 7 mlynedd o garchar.

Mae adran 80A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu y bydd unigolyn yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu rhag bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru os yw unigolyn wedi ei gael yn euog o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (boed wedi ei atal dros dro ai peidio) am 3 mis neu ragor.

Mae’r Cyn Aelod wedi ei anghymhwyso’n awtomatig rhag bod yn aelod o unrhyw Awdurdod yng Nghymru dan y ddarpariaeth uchod. Gan fod uchafswm y gwaharddiad sydd ar gael i Banel Dyfarnu Cymru eisoes wedi ei bennu, nid oes unrhyw fudd i barhau â’r ymchwiliad. Felly, cafodd ei ddirwyn i ben.