Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Treffynnon (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) Honnwyd, pan oedd yr Achwynydd a chyfaill (“y cyfaill”), yn ceisio casglu eitemau personol yr Achwynydd o Amgueddfa (“yr Amgueddfa”) yn 2023, bod yr Aelod wedi cam-drin y ddau ohonynt ar lafar, cyn iddo wthio’r cyfaill at y drws yn rymus a’i gwthio allan tuag at y grisiau. Dywedwyd bod y cyfaill wedi syrthio ar waelod grisiau’r Amgueddfa.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Cofnododd yr Achwynydd a’r cyfaill eu hatgofion yn ysgrifenedig. Cafodd tyst ei gyfweld. Cafwyd gwybodaeth yr Heddlu (“yr Heddlu”).
Gan ystyried ffactorau megis yr adroddiadau gwrthgyferbyniol a dderbyniwyd gan y rhai dan sylw, treigl amser ac absenoldeb unrhyw dystion annibynnol ategol neu dystiolaeth uniongyrchol i gadarnhau’r honiadau bod ymddygiad gwarthus, (a oedd yn gallu effeithio ar ei rôl fel cynghorydd neu’r Cyngor ei hun), neu fod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol, nid oedd yn bosibl i’r Ombwdsmon ddod i farn gytbwys na phenderfyniad ynghylch a oedd y Cod wedi’i dorri.
O dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai’n gymesur ac er budd y cyhoedd i barhau â’r ymchwiliad. Felly, rhoddwyd gorau i’r ymchwiliad.