Honnwyd bod Cyn-aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Cymuned Gwaun Cae Gurwen (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) ar gyfer aelodau drwy gymryd rhan mewn nifer o droseddau difrifol.
Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 6(1)(a) (anfri) o’r Cod. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, yr Achwynydd a Heddlu Dyfed Powys (“yr Heddlu”). Cafodd yr ymchwiliad ei atal dros dro tra oedd yr Heddlu’n ymchwilio.
Nid oedd y dystiolaeth a gafwyd yn cadarnhau’r honiadau a wnaed yn erbyn y Cyn-aelod. Canlyniad ymchwiliad yr Heddlu oedd na fyddai cyhuddiadau troseddol yn cael eu dwyn yn erbyn y Cyn-aelod. Felly, nid oedd yn bosib dod i benderfyniad ar yr honiadau, hyd yn oed gydag ymchwiliad pellach, ynghylch a oedd y Cod wedi cael ei dorri.
Gan ystyried yr wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad, y penderfyniad a wnaed gan yr Heddlu, ac ymddiswyddiad y Cyn-aelod, o dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd. Felly, daethpwyd â’r ymchwiliad i ben.