Gwnaeth yr Achwynydd nifer o honiadau am ymddygiad a allai fod yn amhriodol gan Gyn-aelod o’r Cyngor (ymddiswyddodd y Cyn-aelod yn fuan ar ôl i’r gŵyn gael ei chyflwyno i’r Ombwdsmon). Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r ymddygiadau wedi digwydd ym mywyd personol y Cyn-aelod ac nid oeddent yn gysylltiedig â’i swydd fel aelod o’r Cyngor. Felly, ystyried Adran 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad yn unig a wnaeth yr ymchwiliad, mewn perthynas â’r honiad fod y Cyn-aelod wedi dwyn anfri ar ei awdurdod drwy ymddygiad troseddol.
Ar ôl dechrau’r ymchwiliad, cadarnhaodd yr Heddlu fod yr Heddlu wedi ymchwilio i rai o’r cwynion a godwyd ond bod penderfyniad wedi’i wneud ers hynny i beidio â’i gyhuddo, gyda’r canlyniad wedi’i gofnodi fel ‘Dim Camau Pellach’. O ystyried hyn, er y gallai arestio’r Cyn-aelod a’i ymddygiad honedig fod wedi arwain at ddwyn anfri arno ef yn bersonol, nid oedd digon o dystiolaeth i awgrymu y gallai fod wedi dwyn anfri ar y Cyngor nac ar swydd yr aelod.
Felly, ystyriwyd nad oedd parhau â’r ymchwiliad yn gymesur, nac o fudd i’r cyhoedd, a daeth yr ymchwiliad i ben.