Dyddiad yr Adroddiad

09/07/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202205954

Canlyniad

Dim Angen Gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy gymryd rhan a phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, a fynychodd yn rhithiol, wrth ymddangos ei fod yn gyrru.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a oedd yr Aelod wedi torri’r cod drwy ddwyn anfri ar ei swyddfa neu ei awdurdod.

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion o gyfarfod perthnasol y Cyngor a fideos o’r digwyddiad a arweiniodd at y gŵyn.   Cafwyd gwybodaeth hefyd gan yr Aelod a’r Heddlu.

Roedd y fideo o gyfarfod cyntaf y Cyngor yn dangos yr Aelod yn gyrru cerbyd wrth gymryd rhan yn y cyfarfod a chydnabu’r Aelod mai dyma oedd yr achos.   Teimlai’r Aelod ei bod yn bwysig iddo fynychu pob cyfarfod.  Roedd fideos dilynol yn dangos bod y car naill ai’n llonydd neu fod yr Aelod yn eistedd yn sedd y teithiwr.

Dywedodd yr Heddlu nad oeddent wedi derbyn cwyn ac na fyddai ymchwilio i’r mater bellach er budd y cyhoedd.  Nid rôl yr Ombwdsmon yw penderfynu a fyddai gweithredoedd yr aelod wedi bod yn gyfystyr ag ymddygiad troseddol.   Fodd bynnag, nid yw penderfyniad yr Heddlu yn golygu bod gweithredoedd yr Aelod yn cael eu hystyried yn dderbyniol.

Canfu’r Ombwdsmon fod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torri’r Cod.  Mae’r cyhoedd yn disgwyl yn briodol i aelodau etholedig ymgysylltu’n llawn â busnes y Cyngor ac roedd mynychu cyfarfod wrth yrru cerbyd yn dangos barn wael ac roedd ganddo’r potensial i ddwyn anfri ar y Cyngor.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tystiolaeth o un digwyddiad lle’r oedd yr Aelod yn gyrru ac yn rhyngweithio â’r cyfarfod, ac nad oedd yn ymddangos ei fod yn arwydd o ymddygiad ailadroddus.   Mae’r fideos dilynol yn dangos yr aelod yn y sedd y teithiwr neu mewn cerbyd llonydd yn awgrymu nad oedd yr Aelod wedi ailadrodd yr ymddygiad a’i fod wedi dysgu o’r gŵyn hon.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod gweithredoedd yr aelodau yn awgrymu torri’r Cod, nad oedd wedi ailadrodd yr ymddygiad ers hynny, ac roedd diffyg ymchwiliad troseddol yn golygu na fyddai cymryd camau pellach er budd y cyhoedd.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.

Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei gadw ar gofnod ac yn cael ei ystyried os bydd unrhyw ymddygiad tebyg gan yr Aelod yn y dyfodol.