Dyddiad yr Adroddiad

21/01/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Draenio/Carthffosydd/Cwlfertau

Cyfeirnod Achos

202506043

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C fod Cyngor Wrecsam wedi gwrthod atgyweirio pibell ddŵr a oedd wedi’i difrodi, gan arwain at leithder yn ei eiddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymchwiliad y Cyngor i gŵyn Mr C yn ddigon cadarn. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor drefnu i reolwr adolygu’r holl dystiolaeth yn ymwneud â’r achos a rhoi ymateb pellach i Mr C o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.