Dyddiad yr Adroddiad

04/11/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Diogelu

Cyfeirnod Achos

202503042

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs A am y ffordd y gwnaeth Cyngor Sir Powys (“y Cyngor”) ymdrin â phryderon diogelu yn ymwneud â’u merch. Gwrthododd y Cyngor ymchwilio gan fod y gŵyn y tu allan i’r amserlenni perthnasol a nodir yng Ngweithdrefn Gwyno y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 (“y Weithdrefn”).

Pan edrychodd yr Ombwdsmon ar y gŵyn, cydnabu, er bod y Cyngor yn gywir yn ei honiad am yr amserlenni yn y Weithdrefn, fod rhai o bryderon Mr a Mrs A o fewn yr amserlenni perthnasol i’w hystyried.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Mr a Mrs A o fewn pythefnos i sefydlu cwmpas yr ymchwiliad i’r gŵyn, ac yna o fewn 4 wythnos i gytundeb i ymateb i elfennau’r gŵyn sydd mewn pryd i’r Cyngor eu hystyried.