Cwynodd Mr A fod Cyngor Caerdydd (“Y Cyngor”) wedi cymryd amser afresymol o hir i roi adroddiad Cam 2 iddo am gŵyn yr oedd wedi’i huwchgyfeirio.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr adroddiad Cam 2 wedi’i gwblhau 8 mis cyn iddo gael ei roi i Mr A ac nad oedd unrhyw ymddiheuriad na diweddariad wedi’i roi i Mr A am yr oedi cyn rhoi’r adroddiad iddo nac am y gofid a achoswyd iddo yn sgil hyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y byddai’r Cyngor, o fewn mis i roi’r llythyr am y penderfyniad:
- Yn ysgrifennu at Mr A ac yn cydnabod y bu oedi diangen wrth roi adroddiad Cam 2 iddo, gan ymddiheuro’n ddidwyll iddo a chydnabod y gofid a achoswyd gan yr oedi.