Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Caerdydd wedi rhoi ystyriaeth deg a phriodol i’w gais am gyswllt heb oruchwyliaeth â’i blant.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi asesu anghenion a barn y plant yn briodol ac nad oedd yr wybodaeth a roddodd mewn ymateb i gwynion Mr A yn gywir. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi ymddiheuriad ystyrlon i Mr A cyn pen pythefnos am y methiannau i asesu anghenion y plant a’r wybodaeth anghywir yn yr ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.