Dyddiad yr Adroddiad

20/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Diogelu

Cyfeirnod Achos

202408858

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mr B gwyno ei fod yn anfodlon â chyfathrebu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”). Er iddo gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar sawl achlysur ynghylch pryderon am ei blant, dywedodd Mr B ei fod yn cael ei anwybyddu.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr B wedi cael gwybod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Awst 2024 y byddai’n cael diweddariadau am ei blant bob wyth wythnos. Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu ar sail y pryderon a godwyd, nad oedd yn cyfathrebu’n ddigonol â Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gytuno i fynd ati cyn pen mis i ymddiheuro i Mr B am fethu â darparu diweddariadau am ei blant bob wyth wythnos, ac i ddarparu i Mr B gynllun clir o’r ffordd y gallai ddisgwyl i’r Gwasanaethau Cymdeithasol gyfathrebu ag ef yn y dyfodol. Cytunodd y Cyngor i wneud y pethau hyn.