Cwynodd Miss A fod cofnodion ym meddiant yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor a oedd yn ymwneud â’i merch yn anghywir, yn anghyflawn a bod gwybodaeth ffug wedi’i chofnodi. Cwynodd hefyd nad oedd y Cyngor wedi datgan gwrthdrawiadau buddiant posibl yn briodol â phobl a oedd yn gysylltiedig â gofal ei merch.
Penderfynodd yr Ombwdsmon er bod y Cyngor wedi sicrhau bod ymchwilydd annibynnol wedi cynnal ymchwiliad i gŵyn Miss A, nid oedd wedi creu cynllun gweithredu mewn ymateb i’w hargymhellion yn yr adroddiad a ddeilliodd ac nad oedd wedi cynnig cyfle i Miss A i drafod canfyddiadau’r adroddiad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Miss A i egluro pa gamau y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion ac i gynnig cyfle iddi i drafod yr ymateb a’r adroddiad â swyddog priodol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.