Dyddiad yr Adroddiad

03/01/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Diogelu

Cyfeirnod Achos

202206153

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs L nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi cynnal asesiad lles i’w galluogi i wneud cais i’r llysoedd am gyswllt.

Canfu’r Ombwdsmon fod cwyn ffurfiol wedi cael ei chodi gyda’r Cyngor ym mis Tachwedd 2022 nad oedd wedi dod i ben eto. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Mrs L. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs L, esbonio beth aeth o’i le yn ystod y broses gwyno a thalu iawndal o £100 iddi o fewn pythefnos.