Cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi datgelu llythyr cyfrinachol. Cwynodd hefyd am y modd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon er bod Mr A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd, mi oedd wedi delio â’r mater yn ymwneud â thor diogelwch data’ unig. Cafwyd ymatebion ar ran Uned Llywodraethu Gwybodaeth y Bwrdd Iechyd ond nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried pryderon Mr A am effaith y tor diogelwch data a/neu unrhyw faterion diogelu a oedd wedi digwydd o ganlyniad. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac i ymateb yn ysgrifenedig i Mr A o fewn 2 wythnos.