Dyddiad yr Adroddiad

26/09/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Tywyn

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Cyfeirnod Achos

202307896/202310159

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Cyn-aelod (“y Cyn-aelod”) o Gyngor Tref Tywyn (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy fethu â datgan buddiant mewn perthynas â chyfres o gyfarfodydd y Cyngor a oedd yn ystyried Ymddiriedolaeth (“yr Ymddiriedolaeth”).

Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad ac y dylid ystyried paragraffau 10(1), 10(2), 11(1), 11(2), 12(1), 12(2) a 14(1).

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion y cyfarfodydd perthnasol.  Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld a rhoddwyd cyflwyniadau ysgrifenedig iddynt.  Cafodd y Cyn-aelod ei gyfweld.

Canfu’r ymchwiliad, mewn perthynas â nifer o gyfarfodydd y Cyngor, na wnaeth y Cyn-aelod ddatgan buddiant a’i fod wedi cymryd rhan mewn trafodaethau a phleidleisiau mewn materion yr oedd ganddo fuddiant rhagfarnus ynddynt.  Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad fod mesurau lliniaru ar ran y Cyn-aelod o ystyried cymhlethdodau’r sefyllfa.  Yn arwyddocaol, ei gyd-gynghorwyr oedd wedi pleidleisio y dylai’r Aelod weithredu fel cynrychiolydd y Cyngor ar ran yr Ymddiriedolaeth a’i fod wedi gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd heb i unrhyw bryderon gael eu codi.   Ymddiswyddodd y Cyn-aelod yn ystod yr ymchwiliad.  Wrth bwyso a mesur y ffactorau hyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd gwneud atgyfeiriad yn gymesur.  Fodd bynnag, nododd y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadw ar gofnod a phe bai’r Cyn-aelod yn dychwelyd i’w swydd, bydd hyn yn cael ei ystyried mewn unrhyw achosion yn y dyfodol y gallai’r Ombwdsmon eu hystyried, pe bai cwynion yn dod i law yn y dyfodol.