Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Tywyn (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy fethu â datgan buddiant mewn perthynas â chyfres o gyfarfodydd y Cyngor a oedd yn ystyried Ymddiriedolaeth (“yr Ymddiriedolaeth”).
Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad ac y dylid ystyried paragraffau 10(1), 10(2), 11(1), 11(2), 12(1), 12(2) and 14(1) o’r Cod.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion y cyfarfodydd perthnasol. Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld a rhoddwyd cyflwyniadau ysgrifenedig iddynt. Cafodd yr Aelod ei gyfweld.
Canfu’r ymchwiliad, mewn perthynas â nifer o gyfarfodydd y Cyngor, na wnaeth yr Aelod ddatgan buddiant a’i bod wedi cymryd rhan mewn trafodaethau a phleidleisiau mewn materion yr oedd ganddi fuddiant rhagfarnus ynddynt. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod yr Aelod wedi dangos edifeirwch ac wedi mynegi bod yn ddrwg ganddi os oedd hi wedi gwneud rhywbeth o’i le yn peidio â datgan buddiant, a oedd yn dangos myfyrio a dysgu ar ran yr Aelod. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, ar y cyfan, nad oedd atgyfeiriad yn gymesur. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y dylai’r Aelod gael hyfforddiant ar y Cod gyda sylw penodol i fuddiannau personol a rhagfarnus. Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Aelod gael hyfforddiant o’r fath o fewn 3 mis.