Dyddiad yr Adroddiad

09/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Cyfeirnod Achos

202401510

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Honnwyd bod Aelod o’r Cyngor wedi methu â datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn ystod cyfarfod cyngor.

Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 7(a), 10(2)(c), 11(1), 12(1) a 14(1) o’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor.  Cafodd yr Achwynydd ei gyfweld.

Wrth benderfynu a fyddai parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd, ystyriodd yr Ombwdsmon y ffactorau perthnasol a gan gynnwys a oedd yn debygol y byddai unrhyw sancsiwn yn cael ei osod, pe bai unrhyw dorri ar y Cod yn cael ei ganfod.  Gan fod yr Aelod eisoes wedi’i anghymhwyso rhag bod neu ddod yn aelod o’r Cyngor am gyfnod penodol, hyd yn oed pe bai achos o dorri’r Cod yn cael ei ganfod, mae’n annhebygol y byddai sancsiwn mwy na’r anghymhwyso sydd eisoes ar waith yn cael ei osod ar yr aelod am achos o dorri’r Cod o’r math hwn.  Felly, ar ôl pwyso a mesur, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y byddai parhau â’r ymchwiliad yn ddefnydd anghymesur o adnoddau.

Yn unol â hynny, o dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd.  Felly, rhoddwyd gorau i’r ymchwiliad.