Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod ymddygiad yr Aelod yn ystod y cyfnod cyn pleidlais y Cyngor ar ei Gynllun Datblygu Lleol (“CDLl”) yn amharchus ac yn ddirmygus tuag at swyddogion y Cyngor; bod yr Aelod wedi ceisio dylanwadu’n amhriodol ar bleidlais aelodau eraill y Cyngor ac wedi methu â datgelu buddiant personol a rhagfarnllyd yn y CDLl.
Honnwyd ymhellach nad oedd yr Aelod wedi datgan buddiant personol a rhagfarnllyd yn ystod cyfarfod y Cyngor ar 24 Ionawr 2023, pan bleidleisiodd y Cyngor i gymeradwyo ei CDLl.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld. Cafwyd gwybodaeth gan yr Aelod, a gafodd ei gyfweld hefyd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymddygiad yr Aelod yn y cyfnod cyn pleidlais y Cyngor ar ei CDLl yn gyfystyr â thorri’r Cod.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr Aelod wedi datgan buddiant personol yn ymwneud â’r CDLl yn ystod y cyfarfod ar 24 Ionawr 2023. Fodd bynnag, methodd â datgan buddiant sy’n rhagfarnu yn briodol. Canfuwyd felly fod ei ymddygiad yn awgrymu torri’r Cod.
Wrth ystyried a oedd methiant yr Aelod i ddatgan buddiant personol a rhagfarnllyd yn y CDLl yn briodol yn haeddu camau gweithredu pellach, ystyriwyd y cyngor a roddwyd i’r Aelod gan y Swyddog Monitro, yn ogystal â gwrthodiad yr Aelod i dderbyn y cyngor, a oedd yn ffactor gwaethygol.
Ystyriwyd hefyd fod yr aelod yn aelod cymharol newydd o’r Cyngor ar adeg y digwyddiadau ac, er bod ei fethiant i ddatgan buddiant sy’n rhagfarnu yn cael ei ystyried yn achos difrifol dorri’r Cod, nodwyd nad oedd ei gyfranogiad yn y cyfarfod wedi effeithio ar benderfyniad terfynol y Cyngor ar y CDLl.
Nodwyd bod yr Aelod wedi gwneud cais wedi hynny i’r Pwyllgor Safonau am oddefeb mewn perthynas â’r cais cynllunio perthnasol, gan ddangos ymwybyddiaeth well o’i rwymedigaethau o dan y Cod, ac ymddygiad priodol wedi hynny mewn perthynas â buddiannau, yn ôl pob tebyg, yn dilyn y cyngor clir a dderbyniwyd gan y Swyddog Monitro.
Am y rhesymau hyn, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt. Fodd bynnag, cynghorwyd yr Aelod i fyfyrio’n ofalus ar y Cod a chanllawiau’r Ombwdsmon, er mwyn cryfhau ei ddealltwriaeth o’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau etholedig pan fo buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu yn berthnasol. Argymhellwyd hefyd y dylai’r Aelod gael hyfforddiant gloywi ar ei ddyletswyddau o dan y Cod, er mwyn sicrhau ei fod yn glir pryd mae buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu yn codi a’i rwymedigaethau o dan y Cod mewn sefyllfaoedd o’r fath.