Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Powys (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Honnwyd bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant personol a rhagfarnus yn ystod cyfarfod o’r Cyngor ym mis Chwefror 2023, lle pleidleisiodd aelodau i gymeradwyo cyllideb 2023/24 y Cyngor. Credai’r Achwynydd y dylai’r Aelod fod wedi datgan buddiant cyn y bleidlais ar gyllideb 23/24, oherwydd roedd wedi dod i gytundeb ag Arweinydd y Cyngor cyn y bleidlais, a oedd, yn ei farn ef, o fudd i gyflogwr yr Aelod.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi torri’r Cod drwy fethu â datgan buddiant personol a rhagfarnus ac wrth drafod a phleidleisio ar y gyllideb mewn cyfarfodydd, gan gynnwys y cyfarfod ym mis Chwefror 2023.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld. Cafodd yr Aelod hefyd ei gyfweld.
Canfu’r ymchwiliad bod yr Aelod wedi cwrdd ag Arweinydd y Cyngor cyn y bleidlais ar y gyllideb i drafod blaenoriaethau ei blaid wleidyddol, ac un o’r blaenoriaethau hynny oedd pecyn cymorth ariannol ar gyfer gŵyl ieuenctid Gymraeg (“yr Ŵyl”). Er hynny, nid oedd cyfranogiad yr Aelod yn y drafodaeth ag Arweinydd y Cyngor yn awgrymu bod y Cod wedi’i dorri ac nid oedd unrhyw dystiolaeth bod yr Aelod wedi dylanwadu’n amhriodol ar y drafodaeth nac wedi ceisio creu buddiant iddo ef ei hun na’i gyflogwr.
Yn dilyn hynny, cytunodd Uwch Dîm Arwain y Cyngor ac aelodau’r Cabinet y byddai’r pecyn o gymorth ariannol ar gyfer yr Ŵyl yn cael ei dalu i’r Urdd drwy gyflogwr yr Aelod. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi cynnig hyn fel rhan o drafodaethau’r gyllideb, na’i fod wedi chwarae rhan yn y broses o gynnig neu wneud y penderfyniad hwn.
Ar y cyfan, ystyriwyd bod yr Aelod, erbyn cyfarfod cyllideb 23/24, yn debygol o fod yn ymwybodol mai’r cynllun oedd talu’r arian i’r Urdd drwy ei gyflogwr. Roedd rôl a swydd yr Aelod yn sefydliad ei gyflogwr, a’i ymwybyddiaeth debygol bod y gyllideb yn cynnwys dyraniad o arian i’w dalu i’r Urdd drwy ei gyflogwr yn golygu ei bod yn debygol bod ganddo fuddiant personol a rhagfarnus yn y gyllideb arfaethedig ac y dylai fod wedi datgan buddiannau o’r fath.
Fodd bynnag, cafodd manylion cymorth ariannol yr Urdd eu hepgor o’r gyllideb arfaethedig a’u dyrannu’n anghywir i gyllideb y flwyddyn ddilynol. Roedd hyn yn golygu nad oedd unrhyw ‘fusnes’ a oedd yn ‘gysylltiedig â chyflogwr yr Aelod neu’n debygol o effeithio arno’ wedi’i gynnwys yn y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor ym mis Chwefror 23. Felly, yn yr amgylchiadau hyn, ni thorrwyd y Cod.
Penderfyniad yr Ombwdsmon, o dan adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd nad oedd unrhyw dystiolaeth fod yr aelod wedi torri’r Cod.
Fodd bynnag, argymhellodd yr Ombwdsmon fod yr Aelod yn cael hyfforddiant gloywi ar ei ddyletswyddau o dan y Cod, i sicrhau ei fod yn glir pan fydd buddiannau personol a rhagfarnus yn codi ac ynglŷn a’i rwymedigaethau o dan y Cod mewn sefyllfaoedd o’r fath.