Roedd yr Achwynydd, sef Clerc i’r Cyngor, yn bryderus bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu, er gwaethaf ei gyngor, mewn cyfarfodydd y Cyngor wrth drafod prosiect penodol y Cyngor. Roedd y mater yn parhau ac yn rhwystro’r Cyngor yn ei gynnydd â’r prosiect. Ar ôl ymchwilio, penderfynom fod y dystiolaeth yn awgrymu methiannau i ddatgan buddiannau o’r fath, a oedd yn groes i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol. Ar yr achlysur hwn, gan fod yr Aelod: wedi ymddangos yn y diwedd yn cydnabod bod ei buddiannau’n peri problemau, er yn hwyr yn y dydd; wedi ymddiswyddo o’r Cyngor; heb geisio cuddio ei buddiannau; heb elwa’n bersonol, ynghyd â’i hesboniadau ynghylch pam nad oedd wedi deall bod ei buddiannau’n bersonol ac yn rhagfarnllyd, penderfynom beidio â chymryd camau pellach. Fodd bynnag, rhoddom gyngor i’r aelod a gwnaethom ei rhybuddio pe bai problemau tebyg pellach yn codi yn y dyfodol, y byddem yn ystyried y penderfyniad a’r cyngor a gyhoeddwyd gennym.