Dyddiad yr Adroddiad

11/29/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llanarmon

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Cyfeirnod Achos

202106162

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd swyddfa’r Ombwdsmon gŵyn bod cyn aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Cymuned Llanarmon (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi methu â datgan buddiannau mewn 2 o gyfarfodydd y Cyngor pan drafodwyd adroddiad gan Archwilio Cymru.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 6(1)(a) – Rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu awdurdod.
  • 7(a) – Rhaid i aelodau beidio â, yn eu capasiti swyddogol neu fel arall, defnyddio neu geisio defnyddio eu safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais i’w hunain neu i unrhyw berson arall, neu i greu neu i osgoi anfantais i’w hunain neu i unrhyw berson arall.
  • 10(1) – Ym mhob mater, mae’n rhaid i aelodau ystyried a oes ganddynt fuddiant personol, ac a yw’r cod ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddatgelu’r buddiant hwnnw.
  • 10(2)(c) – Rhaid i aelodau ystyried bod ganddynt fuddiant personol mewn unrhyw fusnes eu hawdurdod pe byddai’n rhesymol ystyried penderfyniad arno yn benderfyniad a fyddai’n effeithio ar eu llesiant neu eu sefyllfa ariannol, neu lesiant neu sefyllfa ariannol person y maent yn byw gydag ef, neu unrhyw berson y mae ganddynt gysylltiad personol agos ag ef.
  • 11(1) – Pan fydd gan aelodau fuddiant personol mewn unrhyw fusnes eu hawdurdod a phan fyddant yn bresennol mewn cyfarfod lle y caiff y busnes hwnnw ei ystyried, rhaid iddynt ddatgelu ar lafar gerbron y cyfarfod hwnnw fodolaeth a natur y buddiant hwnnw cyn i’r cyfarfod ystyried y busnes neu ar ddechrau’r ystyriaeth, neu pan ddaw’r buddiant i’r amlwg.
  • 11(2) – Pan fydd gan aelodau fuddiant personol mewn unrhyw fusnes eu hawdurdod a phan wnânt gynrychioliadau llafar i un o aelodau neu o swyddogion eu hawdurdod, dylent ddatgelu’r buddiant ar ddechrau’r cyfryw gynrychioliadau, neu pan ddaw’n amlwg iddynt fod ganddynt fuddiant o’r fath, a chadarnhau’r cynrychioliad a’r buddiant yn ysgrifenedig o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y cynrychioliad.
  • 12(1) – Pan fydd gan aelodau fuddiant personol mewn unrhyw fusnes eu hawdurdod, mae ganddynt hefyd fuddiant sy’n rhagfarnu yn y busnes hwnnw os bydd y buddiant yn un y bydd yn rhesymol i aelod o’r cyhoedd sy’n gwybod y ffeithiau perthnasol fod o’r farn ei fod mor arwyddocaol fel y bydd yn debygol o ragfarnu eu barn ynghylch buddiant cyhoeddus.
  • 14(1)(a) – Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (2A), (3) a (4), pan fydd gan aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes ei awdurdod, oni roddwyd gollyngiad iddo gan bwyllgor safonau ei awdurdod, mae’n rhaid iddo ymadael â’r ystafell, y siambr neu’r man lle y mae cyfarfod i ystyried y busnes yn cael ei gynnal –

i. pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, yn syth ar ôl i’r cyfnod ar gyfer gwneud cynrychioliadau, ateb cwestiynau neu roi tystiolaeth sy’n ymwneud â’r busnes ddod i ben a beth bynnag cyn i ystyriaeth bellach o’r busnes ddechrau, p’un a ganiateir i’r cyhoedd aros yn bresennol ar gyfer y cyfryw ystyriaeth ai peidio; neu

ii. mewn unrhyw achos arall, pa bryd bynnag y daw i’r amlwg bod y busnes hwnnw’n cael ei ystyried yn y cyfarfod hwnnw;

  • 14(1)(a) – Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (2A), (3) a (4), pan fydd gan aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes ei awdurdod, oni roddwyd gollyngiad iddo gan bwyllgor safonau ei awdurdod, mae’n rhaid iddo beidio â cheisio dylanwadu ar benderfyniad ynghylch y busnes hwnnw;
  • 14(1)(e) – Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (2A), (3) a (4), pan fydd gan aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes ei awdurdod, oni roddwyd gollyngiad iddo gan bwyllgor safonau ei awdurdod, mae’n rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw gynrychioliadau llafar (p’un ai’n bersonol neu ar ryw ffurf ar gyfathrebu electronig) mewn cysylltiad â’r busnes hwnnw neu raid i iddo roi’r gorau ar unwaith i wneud y cyfryw gynrychioliadau llafar pan ddaw’r buddiant sy’n rhagfarnu i’r amlwg.

Cyfaddefodd y Cyn Aelod ei bod yn ymwybodol bod ganddi fuddiannau personol a rhai a oedd yn rhagfarnu, ond ni ddatgelodd hi nhw gan nad oedd eisiau cael ei gorfodi i adael y cyfarfodydd. Cytunodd ei bod wedi annerch y Cyngor ac wedi cymryd rhan mewn pleidleisiau yn y ddau gyfarfod Cyngor. Dywedodd y Cyn-Aelod nad oedd yn difaru ei gweithredoedd.

Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu torri paragraffau 6(1)(a), 7(a), 11(1), 14(1)(a), 14 (1)(c) a 14(1)(e) o’r Cod Ymddygiad.

Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri paragraffau 11(1), 14(1)(a) a 14(1)(e) o’r Cod Ymddygiad drwy fethu â datgelu bodolaeth a natur buddiannau personol a rhai a oedd yn rhagfarnu mewn busnes perthnasol, drwy fethu ag ymadael o gyfarfodydd dyddiedig 1 Ebrill a 3 Tachwedd 2021 ac wrth wneud sylwadau llafar mewn perthynas â’r busnes hwnnw yn y cyfarfodydd. Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad hefyd fod yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad drwy gynnal ei hun mewn cyfarfodydd o’r fath mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy’n dwyn anfri ar ei swydd neu ei hawdurdod. Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad ymhellach bod yr Aelod wedi torri paragraffau 7(a) a 14(1)(c) o’r Cod Ymddygiad drwy ddefnyddio neu geisio defnyddio ei swydd yn amhriodol i osgoi anfantais i berson arall a cheisio dylanwadu ar benderfyniad ynghylch busnes perthnasol. Yn unol â hynny, penderfynodd y Tribiwnlys y dylai’r Aelod gael ei anghymhwyso am 12 mis rhag bod neu ddod yn aelod o’r awdurdod neu o unrhyw awdurdod perthnasol arall.