Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Harlech

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Cyfeirnod Achos

202501611

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Cyn-aelod (“y Cyn-aelod”) o Gyngor Tref Harlech (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).  Honnwyd bod y Cyn-aelod wedi methu â datgan buddiant mewn cyfarfod o’r Cyngor ym mis Mawrth 2025, ynghylch ei chysylltiad ag ysgol (“yr Ysgol”) ac elusen (“yr Elusen”).

Dechreuodd Swyddfa’r Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 11(1) a 12(1) (buddiannau personol a rhagfarnus) o’r Cod.  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor a’r Elusen.  Darparwyd sylwadau gan y Clerc, yr Achwynydd a’r Cyn-aelod.  Ymddiswyddodd y Cyn-aelod o’r Cyngor yn ystod yr ymchwiliad.

Canfu’r ymchwiliad fod y Cyngor wedi rhoi rhoddion blynyddol i’r Elusen (a oedd yn cefnogi’r Ysgol) yn 2024 a 2025, a bod y Cyn-aelod wedi bod yn gyflogedig gan yr Ysgol ac yn un o ymddiriedolwyr yr Elusen ar y pryd.  Canfuwyd bod y Cyn-aelod wedi datgan buddiant ynghylch y mater yn 2024 ond ei bod wedi methu â gwneud hynny ar gyfer yr un mater yn 2025 ac felly mae’n bosib ei bod wedi torri paragraffau 11(1) a 12(1) o’r Cod.  Canfuwyd hefyd, fodd bynnag, nad oedd ei phresenoldeb yn effeithio ar ganlyniad y penderfyniadau a wnaed, ac nad oedd unrhyw dystiolaeth o fudd ariannol uniongyrchol nac enillion eraill i’r Cyn-aelod ac nad oedd unrhyw dystiolaeth o niwed i rywun arall oherwydd ei bod yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd.

Canfu’r Ombwdsmon, o ystyried y ffeithiau am y mater dan sylw, fod y achosion o dorri’r Cod yn ymddangos yn dechnegol eu natur.  Felly, ar y cyfan, gan ystyried natur gyfyngedig y mater, diffyg hyfforddiant neu fwriad, cyngor anghywir ac ymddiswyddiad y Cyn-aelod, roedd yr Ombwdsmon wedi’i fodloni nad oedd unrhyw achosion a awgrymwyd o dorri amodau yn ddigon difrifol i gyfiawnhau eu hatgyfeirio at y Pwyllgor Safonau er budd y cyhoedd.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd dim angen gweithredu pellach yng nghyswllt y materion a oedd yn destun yr ymchwiliad.