Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad drwy fethu â datgan buddiant perthnasol.
Aeth yr Aelod i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai 2025 a oedd yn ystyried rhoi Tystysgrif Defnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig Cyfreithlon (“CLPUD”; dogfen sy’n cadarnhau nad oes angen caniatâd cynllunio ar ddefnydd neu waith arfaethedig), mewn perthynas â newid defnydd adeilad yn yr ardal roedd yn ei chynrychioli, o dafarn (“y dafarn”) i siop. Roedd yr Aelod o blaid caniatáu’r CLPUD ac nid oedd wedi datgan unrhyw fuddiant ymlaen llaw.
Roedd yr Aelod yn arfer bod yn Gadeirydd clwb cymdeithasol (“y Clwb”) yn yr un ardal, ond roedd wedi cael ei ddisodli fel Cadeirydd ar 6 Ebrill. Roedd yr Aelod wedi diweddaru ei gofnod yng Nghofrestr Buddiannau’r Cyngor ar 11 Ebrill i adlewyrchu’r ffaith nad oedd ganddo fuddiant yn y clwb cymdeithasol mwyach.
Dywedodd yr Achwynydd fod yr Aelod, yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio, wedi siarad fel pe bai’n dal yn Gadeirydd y Clwb, a bod unigolyn a oedd wedi gweithredu fel Cynorthwyydd Personol yr Aelod wedi cysylltu â swyddogion y clwb yn ddiweddar, gan gyfeirio at yr Aelod fel “unig gadeirydd y clwb a etholwyd yn swyddogol.” Dywedodd iddo sôn yn ystod araith fod y Clwb yn cystadlu’n uniongyrchol â’r Dafarn, a dywedodd fod ei wraig yn cael ei chyflogi fel Ysgrifennydd y Clwb.
Teimlai’r Achwynydd fod y cysylltiadau hyn yn fuddiant personol a rhagfarnus, felly dylai’r Aelod fod wedi datgan hyn ac wedi dilyn y Cod mewn perthynas â’i gyfranogiad yn y cyfarfod.
Gan fod yr Aelod wedi darparu digon o dystiolaeth bod ei fuddiant ei hun yn y Clwb wedi dod i ben, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn fuddiant personol. Fodd bynnag, gan fod gwraig yr Aelod yn dal i gael ei chyflogi gan y Clwb (er ei bod yn absennol oherwydd salwch ers 6 Ebrill ac nad oedd wedi cael ei thalu), ystyriwyd bod hyn yn fuddiant personol posibl, er nad oedd yn debygol o fod yn ddigon sylweddol i gael ei ystyried yn fuddiant rhagfarnus.
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad y dylai’r Aelod fod wedi ystyried datgan cyflogaeth ei wraig fel buddiant personol, ac roedd hyn yn achos posibl o dorri’r Cod. Fodd bynnag, gan nad oedd yr Aelod yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, roedd ei ddylanwad wedi’i gyfyngu i’w araith o blaid y CLPUD, ac roedd ganddo hawl i wneud yr araith honno.
Er na wnaeth yr Aelod ddatgan unrhyw fuddiant yn ffurfiol, gan ei fod yn cyfeirio at ei gysylltiadau ef a chysylltiadau ei wraig â’r Clwb yn ei araith, nododd yr ymchwiliad bod aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o’r wybodaeth hon, felly gallent ei hystyried wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut i bleidleisio. O ystyried y diffyg effaith niweidiol amlwg yn sgil gweithredoedd yr Aelod, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y tor-amod bach hwn a ddigwyddodd unwaith yn ddigon i gyfiawnhau cymryd camau pellach.