Dyddiad yr Adroddiad

30/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Porthcawl

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Cyfeirnod Achos

202105146

Canlyniad

Dim Angen Gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Porthcawl (“y Cyngor Tref”) wedi torri’r Cod Ymddygiad i Aelodau.

Honnwyd bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn ymwneud â pherthynas â gweithiwr (“y Gweithiwr”) cwmni yr oedd y Cyngor Tref wedi’i gontractio i’w waith.  Honnwyd hefyd bod yr Aelod wedi caniatáu i adroddiad Archwilio Mewnol anghywir gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor Tref.  Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol ymchwilio i’r honiadau ynghylch buddiannau, ac ystyriodd yr ymchwiliad a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri paragraffau 6(1)(a), 7(a), 11(1), 14(1)(a) a 14(1)(b) o’r Cod Ymddygiad.

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor Tref, gan gynnwys cofnodion perthnasol a negeseuon e-bost.   Cyfwelwyd hefyd â thystion, gan gynnwys yr achwynydd, a’r Aelod.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod a’r Gweithiwr wedi cael perthynas fer yn 2020, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn debygol bod gan yr Aelod fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu y byddai angen iddo fod wedi’i ddatgan a thynnu yn ôl o gyfarfodydd perthnasol lle trafodwyd materion cysylltiedig, neu wrth gymeradwyo anfonebau.  Roedd y dystiolaeth a gafwyd yn awgrymu nad oedd yr Aelod wedi cymeradwyo anfonebau tra bod y berthynas yn mynd rhagddi, a thra ei fod wedi mynychu sawl cyfarfod Cyngor Tref, a oedd yn cynnwys eitemau cysylltiedig, dim ond un o’r cyfarfodydd hyn oedd yn dod o fewn cyfnod y berthynas.  Penderfynodd yr Ombwdsmon felly y gallai’r Aelod fod wedi torri paragraffau 11(1), 14(1)(a) a 14(1)(b) o’r Cod Ymddygiad mewn perthynas â’r cyfarfod o fewn y cyfnod perthnasol.

Canfuwyd gan nad oedd cysylltiad yr Aelod a’r Gweithwyr yn agos nac yn chwerw ar ôl i’r berthynas ddod i ben, nad oedd y buddiant bellach yn bersonol ac yn rhagfarnol.  Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon hefyd nad oedd digon o dystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi defnyddio ei safbwynt yn amhriodol neu wedi dwyn anfri ar eu swydd fel aelod neu’r Cyngor Tref yn groes i baragraffau 6(1)(a) neu 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, yng ngoleuni’r ymwneud cyfyngedig â busnes y Cyngor Tref yn ystod y berthynas a’r ffaith bod yr Aelod wedi myfyrio ar ei swydd ac y dylai fod wedi ystyried ei rwymedigaethau o dan y Cod a cheisio cyngor, roedd yn annhebygol y byddai sancsiwn yn cael ei roi ac nid oedd cymryd camau pellach mewn perthynas â’r mater er budd y cyhoedd.   Fodd bynnag, argymhellwyd y dylai’r Aelod fynychu hyfforddiant gloywi ar y Cod Ymddygiad mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.