Dyddiad yr Adroddiad

01/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202408972

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S am fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi gwrthod ymchwilio i’w chŵyn am dorri amodau cynllunio, heblaw gofyn i’r datblygwr a oedd uchder yr eiddo’n gywir. Dywedodd fod y Cyngor wedi gwrthod cais i gynnal asesiad annibynnol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi derbyn sicrwydd a roddwyd gan y datblygwr ynglŷn ag uchder yr eiddo dan sylw ac nad oedd wedi gofyn i’r mesurau a roddwyd gael eu cadarnhau’n annibynnol. Roedd hyn wedi gwneud iddi amau pa mor drylwyr oedd ymchwiliad y Cyngor i’r mater. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gael cadarnhad annibynnol o fewn 6 wythnos o uchder yr eiddo ar y datblygiad i sicrhau nad yw’r amodau cynllunio wedi’u torri.