Cwynodd Mr X nad oedd Cyngor Sir y Fflint wedi gorfodi rheoliadau cynllunio mewn perthynas â’i gymydog yn gosod nifer o garafanau sefydlog ar dir yn groes i’r Hysbysiad Gorfodi a gyhoeddwyd yn 2023.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er bod y Cyngor wedi ymateb i’r gŵyn ac wedi cytuno i gymryd camau i orfodi’r penderfyniad, nad oedd wedi nodi pryd y byddai’n cymryd y camau a amlinellwyd yn ei ymateb Cam 2. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi ymateb pellach (o fewn 3 wythnos) i nodi pryd y bydd yr ymweliad arfaethedig â’r safle yn debygol o ddigwydd, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny. Dylid hefyd anfon ymateb ychwanegol at Mr X yn dilyn yr ymweliad â’r safle i egluro ei gynnig ar gyfer delio â’r diffyg cydymffurfio.