Dyddiad yr Adroddiad

06/06/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202300503

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms G nad oedd Cyngor Sir Fynwy wedi cymryd camau gorfodi yn erbyn ei chymydog a dywedodd nad oedd wedi ymateb i gŵyn yr oedd wedi’i chyflwyno ym mis Chwefror 2022.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi bod yn delio â’r mater fel achos gorfodi, nad oedd wedi ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth i Ms G. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms G am beidio ag ymateb i’w chŵyn, ac i wneud hynny o fewn 4 wythnos.